Sunday March 21 marked the day that millions of people across England and Wales completed key questions about themselves and their households to ensure local services in every community are informed by the best information possible.

However, for those who have not yet submitted their online or paper questionnaires or have maybe misplaced their invitation letter, there is lots of help available.

“The information you provide needs to be about who usually lives in your household on Census Day, which was Sunday March 21, however if you’ve haven’t completed it yet, please do so – there’s still time to,” the Office for National Statistics’ deputy national statistician Iain Bell said.

“Every household should have received their letter inviting them to take part and we’ve had a great response so far. If you haven’t, or you have misplaced your letter, you can head online to www.census.gov.uk and request a new unique access code.

“There is plenty of help available, including face-to-face assistance at local Census Support Centres. “Field officers will soon start calling at households who have not completed their census. They will follow social distancing and COVID-safe guidelines, supporting people to take part.

“They will be equipped with PPE and will never need to enter anyone’s home. They’ll be operating much like a postal or food delivery visit.”

The results from the census will shed light on the needs of different groups and communities, and the inequalities people are experiencing, ensuring the big decisions facing the country following the pandemic and EU exit are based on the best information possible, through the anonymised answers provided.

The ONS will never share personal details and no-one, including government bodies, will be able to identify you in census statistics. Personal census records will be kept secure for 100 years, and only then can future generations view it.

If people do not complete their census, they may have to pay a fine of up to £1,000.
For more information, including how to find a local census support centre, please visit www.census.gov.uk.

 

Ddydd Sul 21 Mawrth, aeth miliynau o bobl ledled Cymru a Lloegr ati i ateb cwestiynau allweddol amdanyn nhw eu hunain a’u cartrefi er mwyn sicrhau y caiff gwasanaethau lleol ym mhob cymuned eu llywio gan y wybodaeth orau posibl.

Fodd bynnag, i’r rhai hynny nad ydynt wedi cyflwyno eu holiaduron eto – ar lein neu ar bapur – neu’r rhai sydd efallai wedi colli eu llythyr gwahoddiad, mae llawer o help ar gael.

“Mae angen i’r wybodaeth a rowch ymwneud â phwy sy’n byw yn eich cartref fel arfer ar Ddiwrnod y Cyfrifiad, sef dydd Sul 21 Mawrth ond, os nad ydych chi wedi llenwi eich holiadur eto, cofiwch wneud hynny – mae amser ar ôl o hyd,” meddai Dirprwy Ystadegydd Gwladol y Swyddfa Ystadegau Gwladol, Iain Bell.
“Dylai pob cartref fod wedi cael llythyr yn ei wahodd i gymryd rhan ac rydym ni wedi cael ymateb gwych hyd yma. Os nad ydych chi wedi cael eich llythyr, neu os ydych chi wedi’i golli, gallwch fynd ar lein i www.cyfrifiad.gov.uk a gofyn am god mynediad unigryw newydd.
“Mae digon o help ar gael, gan gynnwys cymorth wyneb yn wyneb yng Nghanolfannau Cymorth lleol y Cyfrifiad.

“Cyn bo hir, bydd swyddogion maes yn dechrau ymweld â chartrefi nad ydynt wedi cwblhau eu cyfrifiad. Byddant yn dilyn canllawiau cadw pellter cymdeithasol a chadw’n ddiogel rhag COVID-19, gan helpu pobl i gymryd rhan.

“Byddant yn gwisgo cyfarpar diogelu personol ac ni fydd byth angen iddynt fynd i mewn i gartrefi pobl. Byddant yn gweithredu mewn ffordd debyg i weithwyr post neu gwmnïau danfon bwyd.”

Bydd canlyniadau’r cyfrifiad yn taflu goleuni ar anghenion grwpiau a chymunedau gwahanol, a’r anghydraddoldebau mae pobl yn eu profi, gan sicrhau y bydd y penderfyniadau mawr a fydd yn wynebu’r wlad yn dilyn y pandemig ac ymadael â’r Undeb Ewropeaidd yn seiliedig ar y wybodaeth orau posibl, drwy’r atebion dienw a gaiff eu rhoi.

Ni fydd y Swyddfa Ystadegau Gwladol byth yn rhannu manylion personol ac ni fydd neb, gan gynnwys cyrff y llywodraeth, yn gallu eich adnabod chi yn ystadegau’r cyfrifiad. Caiff cofnodion personol y cyfrifiad eu cadw’n ddiogel am 100 mlynedd a dim ond wedyn y bydd cenedlaethau’r dyfodol yn gallu eu gweld.

Os na fydd pobl yn cwblhau’r cyfrifiad, efallai y bydd yn rhaid iddynt dalu dirwy o hyd at £1,000.

 

Image by Free-Photos from Pixabay.